Mae’r crwner wedi cyhoeddi bod cwest i farwolaeth dau y cafwyd hyd i’w cyrff ar lwybr yr arfordir yng Ngheinewydd yr wythnos ddiwethaf, wedi’i agor.

Mae’r ddau gerddwr wedi eu henwi’n ffurfiol fel Amanda Jayne Mousley, 47 oed, o Geinewydd, ac Emyr Davies, 49 oed, o Lanarth.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gyrff y ddau ar lwybr yr Arfordir ger fferm Coybal, a hynny dydd Mercher diwethaf (Ebrill 4).

Roedd y ddau wedi bod ar goll ers rhai dyddiau, ac fe fu eu teuluoedd yn apelio am wybodaeth amdanyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Prif Grwner yng Ngheredigion wedi agor dau gwest i farwolaethau’r ddau, ac fe fydd yr achos yn parhau ar ddyddiad diweddarach.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n dal i drin y marwolaethau fel rhai sydd heb esboniad ar eu cyfer, a hynny’n dilyn archwiliad post-mortem.