Mae drama gan awdur o Sir Benfro wedi ennill un o wobrau Olivier eleni.

Mewn seremoni yn Llundain nos Sul (Ebrill 8), fe dderbyniodd Killology wobr ‘Cyflawniad Eithriadol i Theatr Gysylltiedig’, sef gwobr sy’n cael ei chyfyngu i gynyrchiadau o wledydd Prydain.

Gary Owen, sy’n hanu o Hwlffordd, yw awdur y ddarma a gafodd ei chynhyrchu ar y cyd â Theatr Sherman, Caerdydd. Y cyfarwyddwr oedd Rachel O’Riordan.

Gêm gyfrifiadurol waedlyd yw testun y ddrama, ac ymysg ei themâu mae artaith a moesoldeb.

Enillwyr eraill

Hamilton oedd prif enillydd y gwobrau gyda’r cynhyrchiad yn derbyn saith gwobr, ar ôl derbyn enwebiad mewn 13 categori.

Bryan Cranston enillodd y wobr am yr actor gorau, gyda Laura Donnelly yn ennill categori’r actores orau.