Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i ddamwain ffordd ddifrifol ddydd Sul (Ebrill 8) ar draffordd yr M4 rhwng cyffyrdd 34 Meisgyn a 35 Pencoed.

Fe wyrodd cerbyn Toyota IQ2 gwyn oddi ar y draffordd, gan fynd ar ei ben i mewn i goed, cyn troi drosodd. Mae merch 15 oed wedi’i hanafu’n ddifrifol ac yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd.

Mae gyrrwr 18 oed y car, ynghyd â theithwraig 16 oed yn sedd flaen y car, hefyd wedi’u hanafu.