Mae’r Aelod Cynulliad Neil McEvoy wedi dweud wrth golwg360 y bydd yn trefnu “protest go iawn” yr wythnos nesaf yn erbyn y penderfyniad i ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Daw’r sylw ar ôl i oddeutu 50 o bobol ymgynnull yng Nghaerdydd ddoe i brotestio yn erbyn y deyrnged i’r Tywysog Charles.

Yn ôl Neil McEvoy, cafodd y digwyddiad ddoe ei drefnu “ar sail trydar cwpwl o negeseuon a diweddariad ar Facebook”.

“Doedd dim trefniant fel y cyfryw,” meddai. “Roedd rhywun wedi trydar y bydden nhw yn ymyl y llyfrgell, ac a fyddai gan unrhyw un arall ddiddordeb.”

Dywedodd fod y cyfan wedi’i gynnal “ar sail ychydig iawn o waith trefnu”.

“Roedd yn ddigwyddiad anffurfiol iawn. Fe gawson ni dipyn o bobol yno â theimladau cryf, a dw i’n trefnu’r un broses eto’r wythnos nesaf. Gobeithio y bydd mwy o bobol yn dod. Fe wnawn ni’r peth yn iawn, wna’i roi gwybod i’r heddlu ac fe gawn ni brotest go iawn.”

Bydd protest yn cael ei chynnal ger yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf (Ebrill 14).

‘Embaras i Tywysog Charles’

Tra mai “dim ond pont” yw Pont Hafren, mae Neil McEvoy yn dweud bod y mater yn “golygu llawer mwy na hynny i rai pobol”.

“Mae’r ffaith ein bod ni’n cael ein hanwybyddu a bod disgwyl i ni jyst dderbyn yr hyn mae Lloegr yn ei ddweud wrthym, yn annerbyniol bellach ac mae pobol yn dechrau deffro. Ry’n ni’n rhoi gwybod i bobol na fyddwn ni’n ei oddef ddim mwy.”

Ychwanegodd fod Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi “camddeall” teimladau’r genedl ac mai’r “cyfan mae e wedi llwyddo i’w wneud drwy ailenwi’r bont yw achosi embaras” i’r Tywysog Charles.

Fideo

Mewn fideo ar ei dudalen Twitter, dywed Neil McEvoy: “Mae’r porth i’ch gwlad wir yn dweud tipyn am le’r ydych chi’n byw a’r math o wlad ydych chi.

“A’r cyfan mae’r teitl newydd yna’n ei ddweud wrtha i yw fod Ysgrifennydd Gwladol eisiau cael ei urddo’n farchog. Fe ddylai wneud dipyn gwell.”

Mae hefyd yn cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “eistedd lawr dros Gymru yn hytrach na sefyll lan drosti”.

‘Mae pobol yn deffro’

Dywedodd Neil McEvoy wrth golwg360 fod helynt ailenwi Pont Hafren yr wythnos hon wedi gwneud i bobol “ddeffro”.

“Fe wnawn ni weld pwy sydd eisiau parhau i wrthwynebu. Gallwn ni naill ai bod yn dawel a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen, neu gallwn ni drio gwneud rhywbeth am y sefyllfa.

“Mae angen i Gymru gael ei pharchu ond ar hyn o bryd, does dim parch tuag atom ni.”

Dywedodd fod mudiadau tros annibyniaeth fel Yes Cymru wedi bod yn “chwa o awyr iach”.

“Mae cynifer o bobol wedi ymuno â’r mudiad hwnnw. Ond yr hyn sydd ar goll yw gwleidyddion, sydd ychydig lathenni ar ei hôl hi o ran hwyliau’r cyhoedd, yn fy marn i. Ar ddiwedd y dydd, mae angen i sofraniaeth genedlaethol fod ar frig ein hagenda wleidyddol.”