Ers rhai misoedd bellach, mae’n debyg bod carcharorion Caerdydd wedi bod yn derbyn ‘sgôr’ ar sail lefel y drafferth maen nhw’n ei hachosi yno.

Cafodd rhaglen beilot ei lansio ym mis Tachwedd gyda’r nod o leihau trais mewn carchardai, ac mae carchar y brifddinas ymhlith 16 sefydliad sydd ynghlwm â hi.

Drwy’r rhaglen hon, mae swyddogion yn medru defnyddio data am ymddygiad carcharorion i’w helpu â’u penderfyniadau – ym mha gell y dylai carcharor gael ei osod, er enghraifft.

Mae manylion am y carcharorion yn cael eu cofnodi bob tro maen nhw’n creu trafferth.

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae’r ymateb i’r rhaglen wedi bod yn “bositif dros ben” ac mae disgwyl y bydd yn cael ei chyflwyno ledled Prydain yn y dyfodol.