Mae dau o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff yng Ngheredigion wedi’u henwi’n lleol.

Fe fu Mandy Mousley a Jacob Davies ar goll cyn iddyn nhw gael eu darganfod yn farw ar lwybr yr arfordir yng Ngheinewydd.

Roedd y ddau yn adnabyddus yn yr ardal.

Cafodd yr heddlu wybod eu bod nhw ar goll ddydd Mercher, ac fe fu eu teuluoedd yn apelio am wybodaeth amdanyn nhw.

Yn ôl yr heddlu, mae eu marwolaethau’n cael eu trin fel rhai nad oes esboniad ar eu cyfer nhw ar hyn o bryd, a hynny’n dilyn archwiliad post-mortem.