Mae llyfrau trosedd Clare Mackintosh yn cael eu darllen mewn sawl iaith ar sawl cyfandir ledled y byd.

Fe werthodd y gyn-blismones dros filiwn o gopïau o’i llyfr cyntaf, I Let You Go, a siop Gymraeg sy’n gyfrifol am anfon copïau  o’i llyfr diweddaraf ledled y byd.

A’r wythnos hon mae’r awdur wedi bod yn sôn wrth gylchgrawn Golwg am ei hawydd i gefnogi’r iaith Gymraeg.

Ers symud i’r Bala o Chipping Norton ger Rhydychen ym mis Ebrill y llynedd, mae Clare Mackintosh wedi ymroi i wersi Cymraeg am deirawr bob wythnos.

Ac mae eu plant yn cael eu haddysg yn Gymraeg ac wedi dod yn rhugl yn yr iaith.

“Dw i’n angerddol am ieithoedd,” meddai Clare Mackintosh.

“Yr unig ffordd yr ydan ni’n gallu cadw iaith yw ei gwarchod yn statudol. Dw i’n edmygu’r hyn y mae Gwynedd yn ei wneud o ran ariannu’r plant mewn ysgolion iaith.”

Hwb i’r siop Gymraeg leol

Mae Let Me Lie, nofel newydd Clare Mackintosh, ar frig siartiau gwerthwyr gorau The Sunday Times.

A phan mae darllenwyr ei nofelau trosedd yn archebu copïau wedi eu llofnodi oddi ar ei gwefan, siop Gymraeg Awen Meirion yn y Bala sy’n postio’r llyfrau i’w cwsmeriaid.

Ac mae’r siop eisoes wedi anfon tua 300 o lyfrau i wledydd megis Mecsico, Kuwait, Awstralia a Norwy.

“Dw i’n teimlo’n ofnadwy o gryf am siopa yn lleol a chefnogi’r stryd fawr… [ac] mae Awen Meirion yn rhan o’r stryd fawr yna,” meddai Clare Mackintosh.

Cyfweliad llawn gyda Clare Mackintosh yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.