Mae cynghorydd lleol wedi  dweud bod “cymuned gyfan mewn galar”, ar ôl i gyrff dyn a menyw leol gael eu darganfod ar lwybr yr arfordir yng Ngheinewydd yng Ngheredigion.

Fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys ddoe (dydd Mercher, Ebrill 5) eu bod nhw wedi cael adroddiadau bod y ddau ar goll yn gynharach yn y dydd, cyn i’w cyrff gael eu darganfod gyda’r nos ar y llwybr rhwng Ceinewydd a Chwmtudu.

Roedd dau fad achub o Geinewydd, timau achub a hofrennydd ymhlith y rhai a fu’n chwilio am y ddau, a oedd yn byw yn lleol.

“Blanced o dristwch”

Un o’r rheiny a oedd ar y bad achub oedd y cynghorydd lleol, Dan Potter, a oedd yn adnabod y ddau “yn dda”.

“Roedd y ddynes ifanc yn byw dau ddrws i ffwrdd o fi [yng Ngheinewydd],” meddai, “ac roedd y dyn o Lanarth, ac roeddwn i’n ei nabod ers blynyddoedd.”

Wrth sôn am y ddynes yn benodol, mae Dan Potter yn ychwanegu ei bod yn berson “cariadus”.

“Roedd yn un o’r bobol leol, a chafodd ei dwyn i fyny gyda’r bobol leol,” meddai eto. “Roedd ei rhieni yn  bobol leol hefyd.”

“Mae yna flanced o dristwch dros y pentref cyfan…mae pawb yn numb.”

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod eu marwolaethau yn cael eu trin fel rhai anesboniadwy ar hyn o bryd, a bod eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Mae ymchwiliad i geisio darganfod amgylchiadau eu marwolaethau yn parhau.