Mae Llywodraeth Cymru yn “cydnabod bod rhai cleifion yn aros yn hirach nag sy’n dderbyniol” mewn unedau brys ledled y wlad.

Daw’r sylw wedi i ffigurau ddangos bod 33,834 o gleifion wedi gorfod aros dros ddeuddeg awr i dderbyn triniaeth mewn unedau brys Cymru, yn 2016/2017.

Mae hyn yn gynnydd o 5,818 o gymharu â ffigurau 2015/2016, ac yn gynnydd o 22,332 o gymharu â 2013/2014.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r lefel o fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn “uwch nag erioed”, a thyfodd gwariant i bob person y llynedd yn gyflymach nac yng ngweddill Prydain.

O’r 1,003,710 wnaeth gael eu derbyn i unedau brys Cymru cafodd y “mwyafrif helaeth” o bobol eu trin o fewn pedair awr – cafodd 81.9% eu trin o fewn yr amser yma, 7.1% yn is nag 2011-2012.

“Agored” a “chlir”

“Rydym wedi bod yn agored am yr heriau sy’n wynebu’r sustem gofal iechyd a chymdeithasol, ac rydym yn cydnabod bod rhai cleifion yn aros yn hirach nag sy’n dderbyniol ar gyfer … unedau brys,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi bod yn glir â Byrddau Iechyd am ein disgwyliadau, ac rydym yn parhau i weithio â nhw wrth roi atebion cynaliadwy ar waith, er mwyn gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion.”