Mae llys wedi clywed am nofiwr wnaeth ddadwisgo mewn ystafell â merch, rhai eiliadau wedi iddi hi gael rhyw â’i gyfaill.

Mae Otto Putland, 24, a nofiodd dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2014, wedi’i gyhuddo o dreisio dynes ar ôl noswaith mas yng Nghaerdydd yn 2015.

Yn ôl y ddynes, fe ddaeth y nofiwr i’r ystafell ar ôl iddi hi gael rhyw â’i ffrind, y nofiwr Olympaidd Ieuan Lloyd.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad wrth y llys, bod y ddynes wedi ei thrin “fel petaen nhw ei pherchen hi”.

Y noson

Mewn cyfweliad fideo a gafodd ei ddarlledu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Iau, Ebrill 5), dywedodd y ddynes ei bod hi ac Ieuan Lloyd wedi treulio’r rhan fwyaf o’r noson â’i gilydd, cyn troi am adref.

“Fe wnaethon ni adael ei ffrind [Otto Putland] yn y clwb gyda merch arall,” meddai. “Yna, yn nhŷ Ieuan wnaethon ni gael rhyw.”

Wedi hynny, meddai, fe adawodd Ieuan Lloyd yr ystafell, gan adael y drws ar agor,  a threulio peth amser yn siarad ag Otto Putland.

Yna, clywodd y llys bod Otto Putland wedi mynd mewn i’r ystafell ac eistedd ar y gwely, cyn dadwisgo. Yn ôl y ddynes, roedd hi’n gwisgo sgert a thop, ond dim dillad isaf.

“Fe orweddodd e ar fy mhen i, a dyna pan ddywedais i ‘dydych chi ddim yn gallu fy mhasio fi o gwmpas’ a dywedodd e ‘dydyn ni ddim yn dy basio di o gwmpas’,” meddai’r ddynes wedyn.

Clywodd y llys bod y nofiwr wedi bwrw ati i’w threisio, a bod Ieuan Lloyd wedi dychwelyd un tro i’r ystafell a gadael heb ymyrryd.

Fe adawodd hithau wedi iddi hi alw ei ffrindiau, ac wedi iddyn nhw ddod i’w helpu, clywodd y llys.

Gwadu

Mae Otto Putland o Dinedor, Hereford, yn gwadu un cyhuddiad o dreisio, ac mae’r achos yn parhau.