Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth ynglŷn â dyn 46 oed sydd ar goll o Ynys Môn.

Does neb wedi gweld Paul Ivor Jackson o Benllech ers tua 11yh ddydd Mawrth (Ebrill 3).

Mae ganddo wallt byr brown, a’r gred ydi ei fod yn gwisgo trowsus cargo du, crys-t a siaced lwyd.

Mae’n mesur rhwng 5’6″ a 5’8″  o daldra.

Fe all unrhyw sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar y rhif, 101.