Mi fydd yr ail bont dros afon Hafren yn cael ei hailenwi’n ‘Bont Tywysog Cymru’, a hynny er mwyn nodi pen-blwydd mab hynaf y Frenhines yn 70 oed ym mis Tachwedd eleni.

Fe fydd y bont, a gafodd ei hagor gan y tywysog yn 1996, hefyd yn dynodi 60 mlynedd ers ei enwi’n Dywysog Cymru pan oedd yn 10 oed a Gemau’r Ymherodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Fe gafodd ei arwisgo yng Nghaernarfon ar Orffennaf 1, 1969, ac yntau ar drothwy ei ben-blwydd yn 21 oed.

Daw’r cyhoeddiad diweddaraf hwn hefyd yn ystod y flwyddyn pan fydd Llywodraeth Prydain yn diddymu’r tollau ar y bont.

“Teyrnged addas”

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, mae’r ailenwi hwn yn “deyrnged addas” i’r Tywysog Charles, sydd “wedi rhoi degawdau o wasanaeth ffyddlon i Gymru”.

“Mae ailenwi un o’n mannau mwyaf eiconig yn ffordd addas o gydnabod yn swyddogol ei ymrwymiad a’i ffyddlondeb i Gymru a’r Deyrnas Unedig fel Tywysog Cymru,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen i ddynodi’r achlysur mewn digwyddiad arbennig yn ddiweddarach eleni pan fydd Pont Tywysog Cymru a’i chwaer-bont yn cael eu gweld fel symbolau positif o’r bartneriaeth economaidd a chymdeithasol newydd rhwng de Cymru a de-orllewin Lloegr, ynghyd â chryfder y Deyrnas Unedig.”