“Does dim byd gwell” na chynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, meddai Harri Owen o’r band Ceidwad y Gân.

Mae’r band o Ruthun yn Letterkenny yn Iwerddon dros y dyddiau nesaf i geisio ennill £1,000 wrth gystadlu yn erbyn bandiau o’r gwledydd Celtaidd eraill.

Cafodd Cofio Hedd Wyn, cân sy’n cyfuno gwerin a rap, ei chyfansoddi gan Erfyl Owen, tad Harri, i nodi canrif ers marw Hedd Wyn yn Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wrth edrych ymlaen at yr ŵyl, dywedodd Harri Owen wrth golwg360: “Mae’n grêt. Rydan ni wedi gwneud y peth mawr yn ennill yr un Cymraeg, ond rŵan yn cael mynd i gynrychioli Cymru yn Iwerddon. Does dim byd gwell.”

‘Anhygoel’

Dywedodd fod ennill Cân i Gymru yn “anhygoel” ac yn “be’ oedd fy nhad yn haeddu, mae o wedi gwneud cymaint i’r gymuned”.

Mae Erfyl ‘Bov’ Owen yn arwain y côr a sefydlodd yn Rhuthun, Côr y Porthmyn, ac mae cydweithio gyda’i dad yn rhywbeth y mae Harri Owen yn ei fwynhau.

“Mae’n neis i ni allu gwneud o i ’nhad hefyd achos fo ddaru gwneud y gân i ni.

“’Dan ni’n gwneud dipyn efo’n gilydd. ’Dan ni newydd sgwennu un arall efo’n gilydd, ond dwi’n meddwl bo ni’n mynd i wneud mwy efo’n gilydd rŵan efo be’ sy’ wedi digwydd yn Cân i Gymru.”

Cân amserol

Mae Cofio Hedd Wyn yn nodi marwolaeth y bardd yn Fflandrys yn 1917 ac yn ôl Harri Owen, roedd ei dad yn awyddus i gofnodi’r hanes ar ffurf cân.

“Oedd o’n gan mlynedd ers Hedd Wyn. Oedd Dad isio gwneud cân oedd yn mynd i gael gafael ar y genedl i gyd, felly cân oedd yn meddwl gymaint i bawb yn y wlad, yn lle jyst un neu ddau berson.”

Fe fydd y band yn perfformio’r gân yn y gystadleuaeth heno (nos Iau, Ebrill 5) cyn ei pherfformio eto mewn noson Gymraeg nos Wener.