Mae swyddogion RSPCA yng Nghaerdydd yn ceisio dod o hyd i ffordd o atal cath rhag dal i ddringo i ben polyn dro ar ôl tro.
Fe fu’n rhaid achub Nasher, cath tair oed, o ben polyn 25 troedfedd yn ardal Llanrhymni ar Fawrth 29. Fe fu’r gwasanaeth tân yn cynorthwyo’r swyddogion.
Mae pryderon y gallai swyddogion gael anaf o orfod dringo’r polyn eto ac eto.
“Cysylltodd trigolion yn y stryd â ni yn gofidio’n fawr iawn am Nasher gan ei bod yn bwrw glaw yn drwm,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA.
“Daeth criw Gwasanaeth Tân ac Achub y De draw a defnyddio ysgol arbenigol, ac fe lwyddon nhw i ddod â Nasher i lawr yn ddiogel.”
‘Direidus’
Ond, mae Nasher yn gath “ddireidus”, meddai wedyn, ac mae’n hoff iawn o ddringo polion.
Mae yna bryder y gall pobol fod yn rhoi eu hunain mewn perygl os y bydd Nasher yn ei gael ei hun mewn perygl eto.
Y gred ydi y bydd perchennog yn cysylltu â BT i ofyn am gymorth i ddod o hyd i ffyrdd o atal Nasher rhag dringo polion teliffon.