Mae dros 250,000 o yrwyr yn ninas Caerdydd yn cael eu dal bob blwyddyn yn gyrru mewn lonydd bysiau, yn ôl ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi’i ryddhau i’r RAC ar gais o ryddid gwybodaeth, mae dros chwarter miliwn (268,000) o bobol yng Nghaerdydd yn gorfod talu dirwy am yrru’n anghyfreithlon mewn lonydd sydd wedi’u darparu ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae hyn i gymharu â’r ffigwr ledled gwledydd Prydain, lle mae 1.13 miliwn o yrwyr yn cael eu dal yn gwneud yr un peth, gyda swm y dirwyon tua £68m. Dyma gynnydd o 5% rhwng 2015 a 2017, yn ôl y RAC.

Mae rhif y sawl sy’n cael eu dal yn amrywio o ddinas i ddinas:

  • Llundain – 994,000;
  • Manceinion –353,000;
  • Glasgow – 339,000;
  • Bradford – 209,000;
  • Nottingham – 195,000.

Y swm isaf sy’n cael ei roi fel diryw yw £60. Ond fe all godi i tua £160 mewn rhai dinasoedd fel Llundain.

“Rhywbeth o’i le”

Yn ôl llefarydd ar ran y RAC, Simon Williams, mae angen newid y system o sut mae lonydd bysiau yn gweithio, a hynny trwy adael i yrwyr eu defnyddio ar gyfnodau pan fo’r traffig yn llai prysur.

“Mae gan lonydd bysiau ran hanfodol mewn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy,” meddai, “ac maen nhw’n helpu cadw ein hardaloedd trefol i symud.

“Ond mae’r nifer mawr o ddirwyon – mwy na miliwn bob blwyddyn – yn awgrymu bod rhywbeth o’i le, a dydyn ni ddim yn credu bod y mwyafrif yn gwybod eu bod nhw’n torri’r rheolau.

“Tra bo yna ddim reswm i amddiffyn gyrru’n fwriadol mewn lôn bws, rydym ni’n credu bod modd gwneud mwy i sicrhau bod gyrwyr yn gwybod pryd y gallan nhw yrru ar un, a phryd ddim.”