Mae Canolfan y Mileniwm yn dweud eu bod wedi datrys problem dechnegol sydd wedi achosi trafferthion i bobol oedd yn ceisio prynu tocynnau cyngherddau’r Eisteddfod Genedlaethol – ond mae pobol yn dal i gwyno am y broses, ac yn honni eu bod wedi treulio oriau yn ceisio bwcio seddi.

Er i’r system brynu ar-lein fynd yn fyw am 8.30yb heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 3), doedd dim modd prynu tocynnau.

“Mae’r [Ganolfan] wedi cysylltu i ddweud eu bod wedi datrys y problemau technegol erbyn hyn ond eu bod yn dal i gael traffic uchel i’r wefan sydd yn arafu’r broses,” meddai’r Eisteddfod ar Twitter.

“DIOLCH YN FAWR I BAWB am eich amynedd. Mae staff [Ganolfan] yn gweithio’n galed iawn i ddelio gyda phob un ymholiad!”

Be aeth o’i le?

Fel arfer mae modd prynu’r tocynnau o wefan yr Eisteddfod, ond eleni bu newid i’r drefn, gyda’r brifwyl yn ymweld â Chaerdydd a’n cynnal digwyddiadau yn y Ganolfan.

Mae’n debyg bod nifer fawr o bobol wedi heidio i’r wefan ar yr un pryd er mwyn prynu tocynnau, a bod y llif yma wedi cyfrannu at y trafferthion technegol.

Ymateb

Bu yna gryn dipyn o ymateb ar Twitter, gyda sawl un yn honni i’r broses gymryd dros awr.