Mae gan fyfyrwyr mewn colegau addysg uwch yng Nghymru bellach hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r union ‘hawliau’, sydd wedi bod mewn grym ers Ebrill 1, yn amrywio o sefydliad i sefydliad, ond mae nifer ohonyn nhw yr un fath ledled Cymru.
Mae’r rheiny’n cynnwys:
- tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg;
- gwasanaeth cwnsela cyfrwng Cymraeg;
- gohebiaeth megis llythyrau a ffurflenni yn Gymraeg.
Mae’r ‘hawliau’ hyn yn golygu bod sefydliadu yn y sector addysg uwch bellach yn ymuno â thros 100 o rai eraill ledled Cymru, megis cynghorau sir, heddluoedd a sefydliadau cyhoeddus eraill, mewn darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r ‘hawliau’ yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg.
“Dyma’r genhedlaeth gyntaf erioed o fyfyrwyr i gael hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai Meri Huws, “ac mae mor braf eu gweld yn dathlu’r garreg filltir bwysig yma – ym mhrofiad y myfyrwyr eu hunain ac yn hanes datblygiad yr iaith Gymraeg yn ogystal.”