Mae un o gynghorwyr Cyngor Sir Conwy yn dweud bod angen sicrhau “pedair conglfaen” os ydi Llywodraeth Cymru am gyrraedd eu nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

Wrth annerch Eisteddfod y Pasg Pandy Tudur nos Lun (Ebrill 2), roedd llywydd y dydd, Garffild Lloyd Lewis bod angen gwneud yn siwr fod yr iaith ar seiliau diogel yn y gweithle, yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned, neu mi fyddai hi ar ben.

“Mae’n dda, mewn ffordd, gweld fod yna gwmniau yng ngogledd Cymru sy’n dweud eu bod nhw’n methu dod o hyd i siaradwyr Cymraeg i lenwi swyddi, oherwydd mae’n dangos fod yna swyddi allan yna i siaradwyr Cymraeg, ond nad oes yna ddigon o siaradwyr ar hyn o bryd,” meddai wrth y gynulleidfa yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw, Llangernyw.

“Mae’n dda o beth hefyd gweld fod pethau’n newid o ran sut mae pobol yn meddwl am eu Cymraeg,” meddai wedyn. “Pan o’n i’n gweithio ym myd y cyfryngau, roedd hi’n gallu bod yn anodd cael pobol i siarad ar y teledu, am eu bod nhw’n dweud ‘so fy Nghymraeg i’n ddigon da’… ond mae pethau yn newid.”

Ac yntau’n dal portffolio Addysg ar y cabinet dadleuol dan arweiniad Gareth Jones yng Nghonwy, mae Garffild Lloyd Lewis yn dweud hefyd fod athrawon ac ysgolion yn gwneud gwaith da yn rhoi’r Gymraeg i blant, a hynny mewn cyfnod o doriadau a gwasgu mawr.

“Yn y cartref, wedyn,” meddai, “mae teledu Cymraeg a defnydd pobol ifanc o’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg yn dod i fewn. Rydan ni wedi gweld newid mawr yn y ffordd mae teuluoedd yn gwylio teledu – y rhieini i lawr grisiau yn gwylio S4C, efallai, ond y plant i fyny’r grisiau yn eu hystafelloedd yn gwylio pob math o bethau ar y we…

“A’r pedwerydd peth ydi gwneud yn siwr fod y Gymraeg yn cael ei lle yn y gymuned, mewn digwyddiadau fel hyn (Eisteddfod Pandy Tudur),” meddai Garffild Lloyd Lewis.