Fe fydd gofynion newydd i sicrhau bod staff gofal, sy’n gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain, yn cael eu trin yn deg, yn dod i rym heddiw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y gofynion newydd hefyd yn sicrhau bod pobl sy’n derbyn gofal “yn cael y gwasanaethau gorau posibl”.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y gofynion newydd yn rhan o’i hymdrechion ehangach “i gefnogi darparu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r canlyniadau personol y mae eisiau eu cyflawni.”

Fe fydd y rheoliadau newydd yn mynd i’r afael â’r defnydd o gontractau dim oriau. O heddiw ymlaen, mae’n ofynnol i ddarparwyr roi dewis o gontract i weithwyr gofal cartref a hynny ar ôl cyfnod cyflogaeth o dri mis.

Mae’r rheoliadau hefyd yn gosod gofynion ar y darparwyr hynny i sicrhau bod yr amser sy’n cael ei neilltuo ar gyfer teithio a gofal yn cael ei nodi’n “glir ac yn dryloyw”.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi agor cofrestr gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru i gynnwys gweithwyr gofal cartref a fydd “yn rhoi hyder i’r cyhoedd bod gan weithwyr gofal cartref y sgiliau a’r cymwysterau priodol i wneud eu swyddi mewn ffordd broffesiynol a thosturiol.”

“Bargen decach”

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies bod y rheoliadau newydd wedi’u cynllunio “i gefnogi gwelliant parhaus yn y sector gofal yng Nghymru.”

Ychwanegodd: “Maen nhw’n cynnig bargen decach i staff yn y sector gofal cymdeithasol, ac yn helpu i ddiogelu ansawdd y gofal a’r cymorth y mae pobl yn eu cael yn eu cartrefi eu hunain.

“Mae cysylltiad clir iawn rhwng y defnydd o gontractau dim oriau a gostyngiad yn ansawdd y gofal, a hynny oherwydd materion ynghylch dilyniant o ran gofal a chyfathrebu rhwng gweithwyr a’r rhai y maen nhw’n eu cefnogi. Bydd y mesurau hyn yn sicrhau bod dewis o drefniadau contractiol yn cael ei gynnig i weithwyr.

“Bydd ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wahaniaethu’n glir rhwng amser teithio ac amser gofal wrth drefnu gwasanaethau hefyd yn gwella profiad pobl y mae arnynt angen gofal. Bydd gwneud hynny yn helpu i fynd i’r afael â byrhau galwadau’n fwriadol, gan sicrhau na chaiff amser gofal a chymorth pobl ei erydu oherwydd amser teithio rhwng ymweliadau.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gymryd camau i sicrhau bod pobl sy’n derbyn gofal yn cael y gofal gorau posibl, ac i sicrhau tegwch i staff gofal cymdeithasol ledled Cymru.”

Amcangyfrifir bod tua 19,500 o weithwyr gofal cartref yng Nghymru, yn darparu tua 260,000 awr o ofal yr wythnos i 23,000 o bobl.