Fe fydd gorsaf drenau Cyffordd Llandudno yn parhau ynghau ddydd Llun yn dilyn tân mewn adeilad yno ddydd Sadwrn.

Mae’n debyg bod peirianwyr eisiau asesu os yw’r adeilad yn ddiogel.

Cafodd gwasanaethau yn cyrraedd a gadael Cyffordd Llandudno yng Nghonwy eu canslo yn dilyn y tân, a achoswyd oherwydd problem drydanol, fore dydd Sadwrn.

Dywed cwmni Trenau Arriva Cymru y bydd bysys yn cludo pobl rhwng Llandudno, Deganwy, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn.

Mae gwasanaethau Arriva rhwng Caergybi a Llandudno i Gaerdydd, Birmingham International, maes awyr Manceinion, Manceinion Piccadilly, Llundain Euston a Blaenau Ffestiniog wedi’u heffeithio.

Fe fydd trenau Virgin rhwng Caergybi a Birmingham New Street a Llundain Euston hefyd yn cael eu heffeithio.

Mae National Rail wedi rhybuddio y gall trenau sy’n mynd drwy Gyffordd Llandudno barhau i gael eu heffeithio hyd at 4 Ebrill.