Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â llofruddiaeth dyn 67 oed yn Abertawe.

Cafwyd hyd i gorff John Williams yn ei gartref yn Heol Pentre-chwyth ddydd Sadwrn, 31 Mawrth am tua 12.30yp.

Roedd John Williams yn cael ei adnabod yn lleol fel Jack. Roedd wedi ymddeol ac wedi byw yn yr ardal am nifer o flynyddoedd.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn ardal Heol Pentre-chwyth rhwng 11.20yh nos Iau (29 Mawrth) a 12.30yp ddydd Sadwrn, 31 Mawrth.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Richard Jones o Heddlu De Cymru bod eu “meddyliau gyda theulu John Williams yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu trwy Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.