Mae traeth Ceinewydd yng Ngheredigion wedi’i gau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol yn sgil pryderon i iechyd y cyhoedd.

Mae nant sy’n rhedeg ar y traeth wedi’i halogi gan slyri fferm.

Cafodd swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wybod am y gollyngiad neithiwr (nos Wener), a phenderfynu cau’r traeth gan rybuddio’r cyhoedd i gadw draw.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion, “Oherwydd y gollyngiad slyri ar draeth Dolau nos Wener, bu’n rhaid inni wneud penderfyniad i gau’r traeth am gyfnod amhenodol i iechyd a diogelwch y cyhoedd. Rydym yn cynghori’r cyhoedd yn gryf i gadw’n glir o’r ardal.”