Marw Emyr Hywel – athro, awdur ac ymgyrchydd

Diweddarwyd  

Emyr Hywel, adeg cyhoeddi casgliad o lythyrau D J Williams

Llun: Y Lolfa

Bu farw’r cyn-brifathro a’r ymgyrchydd iaith, Emyr Hywel.

Roedd yn 72 mlwydd oed ac wedi treulio’r rhan helaethaf o’i oes ym mhentref Blaenporth, Ceredigion.

Fe fu’n brifathro ar Ysgol Tregroes yn y sir, ac roedd yn frwd ei gefnogaeth i fudiad yr Urdd ac i undeb athrawon UCAC.

Roedd hefyd yn un o gyn-gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe fu’n un o hoelion wyth y mudiad Cymuned yn ardal Aberteifi. Fe ymladdodd etholiadau llywodraeth leol yn enw Llais Ceredigion hefyd.

Mae cyfeillion a chydnabod wedi bod yn talu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ei ddisgrifio fel “cyfaill” i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.

Roedd yn fardd ac awdur, ac wedi astudio bywyd a gwaith D J Williams ar gyfer ei radd MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ef oedd awdur y cofiant D J Williams: Y Cawr o Rydcymerau, ac ef olygodd Annwyl DJ, y casgliad o lythyrau rhwng y llenor â Saunders Lewis a Kate Roberts.

Fe ges i'r fraint o ddod yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith am flwyddyn yn syth ar ôl i Emyr Hywel fod yn gadeirydd yn…

Posted by Ffred Ffransis on Thursday, March 29, 2018

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd