Mae uwch-reolwyr Prifysgol Aberystwyth yn cadw’n dawel, wedi i gopi o lythyr at staff yn rhybuddio bod cant o swyddi yn y fantol, gael ei ryddhau i’r cyfryngau ynghynt yr wythnos hon.

Mae’r llythyr gan yr Is-Ganghellor, Elizabeth Treasure, yn egluro sut y mae’n rhaid i’r Coleg Ger y Lli arbed £5.4m dros y flwyddyn ariannol nesaf, ac y gallai un o bob wyth o “swyddi rheolwyr a staff cynorthwyol” fynd.

Mae swyddi’r pedwar Dirprwy Is-Ganghellor hefyd ymhlith y rhai dan fygythiad, gyda’r nifer yn haneru i ddau – gan arbed £300,000 y flwyddyn.

Mae’r llythyr, a gafodd ei ryddhau gyntaf gan y BBC, yn nodi y byddai’r cynlluniau yn “diogelu cynaladwyedd tymor hir Aberystwyth”.

Daw’r newyddion wedi i undeb Unsain rhybuddio ym mis Mai y llynedd bod hyd at 150 o swyddi yn y fantol yn y brifysgol.