Mae ymchwiliad cyhoeddus i ffordd newydd ddadleuol ar yr M4 wedi dod i ben, 11 mis ers ei ddechrau.

Dyma oedd un o ymchwiliadau hiraf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed, ac roedd yn clywed gan bobol oedd o blaid ac yn erbyn y cynllun gwerth  £1.3bn.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu traffordd chwe lôn, 14 milltir o hyd i’r de o Gasnewydd, a fydd hefyd yn cynnwys adeiladu pont ar draws Afon Wysg a newidiadau mawr i gyffyrdd 23 a 29 ar yr M4.

Roedd y 6,189 o ymatebion a gafodd yr ymchwiliad yn cynnwys 319 o wrthwynebiadau unigol a 219 o lythyrau o blaid y prosiect.

Mae cyrff amgylcheddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent yn erbyn y cynllun.

Aros am adroddiad

Ar ôl cau’r ymchwiliad, bydd yr arolygwyr yn mynd ati i gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru a bydd hynny’n sail i benderfyniad y Llywodraeth i barhau â’r prosiect ai peidio.

Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth ddim yn rhwym i argymhellion yr adroddiad.

Mae i Aelodau Cynulliad gynnal dadl ar ôl i’r adroddiad gael ei gyflwyno a chynnal pleidlais, ond eto does dim rhaid i Lywodraeth Cymru lynu wrth y bleidlais honno.

“Dw i wedi dweud yn glir bod angen i’r ymchwiliad hwn graffu mewn ffordd drylwyr ac agored ar y cynllun arfaethedig, ar y mesurau sydd ynddo i liniaru’r effaith ar yr amgylchedd, ac ar yr Achos Busnes a’r llwybrau amgen a awgrymwyd gan y gwrthwynebwyr, gan gynnwys y Llwybr Glas,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Hoffwn i ddiolch i’r holl unigolion a’r grwpiau sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad. Byddwn yn aros nawr am adroddiad yr arolygydd annibynnol, a’r disgwyl yw y byddwn ni’n gallu gwneud penderfyniad yn ddiweddarach eleni ynglŷn â bwrw ymlaen â’r cynllun ai peidio.”

Os caiff sêl bendith, mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau diwedd y flwyddyn, gyda’r ffordd newydd i agor erbyn diwedd 2023.