Ar daith i nodi blwyddyn tan Brexit, mae Theresa May wedi mynnu nad yw ei Llywodraeth yn ceisio bachu pwerau oddi ar y gwledydd datganoledig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gyrraedd Y Barri ymhen ychydig oriau i drafod â busnesau ym Mro Morgannwg.

Mae’n mynd ar daith i bob un o wledydd Prydain a ddechreuodd yn yr Alban y bore yma, cyn iddi wibio i Belfast wedyn i siarad â ffermwyr.

Wrth siarad yn Ayr, rhyw awr o Glasgow, dywedodd y byddai Caeredin yn benodol yn cael mwy o bwerau wedi Brexit.

“Gadewch i ni fod yn glir, does dim cipio pwerau, dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw bwerau sydd eisoes wedi cael eu datganoli i Lywodraeth yr Alban,” meddai.

“Yn wir, bydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn mwy o bwerau o ganlyniad i ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.”

Methu dod i gytundeb

Dywed bod y trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain, yr Alban a Chymru yn canolbwyntio ar sut gall ffermwyr a busnesau ymhob gwlad barhau i fasnachu yn rhydd gyda’i gilydd fel rhan o farchnad sengl y Deyrnas Unedig.

Fodd bynnag, dydy hi ddim yn ymddangos bod Cymru a’r Alban yn gallu cytuno i gynigion San Steffan ac mae’r ddwy wlad yn dal i fynnu y byddan nhw’n rhoi datganoli mewn perygl.

O ganlyniad, mae’r ddwy lywodraeth wedi cyflwyno mesurau eu hunain a fyddai’n sicrhau bod unrhyw bwerau ar feysydd wedi’u datganoli yn dod yn syth o Frwsel i’r llywodraethau datganoledig.