Mae tri dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad ag ymosodiad yng Nghaerdydd dros y penwythnos, wedi cael eu rhyddhau o’r ddalfa.

Roedd y dynion, 18, 28 a 63 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod, yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn y Rhath ar brynhawn ddydd Sul (Mawrth 25).

Mae’r ifancaf wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod y ddau arall wedi’i rhyddhau dan ymchwiliad.

Cafodd unigolyn arall, dyn 35 oed, ei arestio a’i ryddhau ddechrau’r wythnos.

Anafiadau

Cafodd swyddogion eu galw i’r tŷ yn Inverness Place, tua 7.40yh yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi cael eu trywanu.

Cafodd dau ddyn, 17 ac 13, eu cludo i’r ysbyty, ac maen nhw’n parhau i fod yno mewn cyflwr sefydlog.

Er cafodd dyn arall, 26 oed, ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau tebyg, mae heddlu bellach ar ddeall nad oedd ef na’i anafiadau yn gysylltiedig â’r digwyddiad.