Mae cwmni Megabus wedi cael ei wahardd rhag arddangos hysbysebion sy’n awgrymu bod ganddyn nhw deithiau sydd mor rhad â £1.

Roedd neges ar wefan a chyfrif Facebook y cwmni yn awgrymu bod ganddyn nhw deithiau rhwng Aberystwyth a Birmingham, a Llundain a Bath, oedd mor isel â phunt.

Wedi i’r negeseuon yma gael eu postio, fe gwynodd dau unigolyn, gan ddweud nad oedd y cwmni’n darparu tocynnau mor rhad â hynny mewn gwirionedd.

Fe ddaeth hi’n glir mai dim ond 4% o docynnau Aberystwyth i Birmingham oedd ar gael am £1, ac yn ôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) roedd yr hysbyseb yn gamarweiniol i gwsmeriaid.

Megabus

“Rydym wedi darparu prisiau clir a gonest i bob un o’n cwsmeriaid erioed. Mae hynna’n cynnwys miloedd o bobol sydd wedi manteisio ar y dêl £1,” meddai llefarydd ar ran Megabus.

“Er y byddwn yn parhau i ddarparu seddi mor rhad ag £1, mi fyddwn yn mynd ati i gydymffurfio ag argymhellion yr ASA.”