Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd safle hen Ysgol Dyffryn Teifi’n cael ei roi ar werth ar y farchnad agored mewn tri darn.

Daw hyn ar ôl i’r grŵp cymunedol, Plant y Dyffryn, a oedd wedi gobeithio prynu’r safle a’i throi’n ganolfan gymunedol, fethu â chodi digon o arian ar gyfer ei phrynu’n gyfan.

Fe gaeodd Ysgol Dyffryn Teifi, sydd ynghanol tref Llandysul, ei drysau am y tro olaf yn 2016, a hynny ar ôl i Ysgol Bro Teifi, sy’n ysgol ar gyfer plant rhwng 3 a 18, agor gerllaw.

Ac yn dilyn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 27), mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu y bydd safle’r hen ysgol yn cael ei rhannu’n dri darn ar y farchnad agored, wrth iddyn nhw obeithio y bydd hyn o fantais i ddiddordeb sydd eisoes wedi cael ei mynegi yn y safle gan sefydliadau a chwmnïau eraill.

Ysgol Dyffryn Teifi yn “ganolbwynt” 

“Roedd Ysgol Dyffryn Teifi yn ganolbwynt i Landysul a’r ardal ehangach am amser hir,” meddai’r Cynghorydd Gareth Lloyd, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Datblygu Cymunedol.

“Mewn penderfynu rhannu’r safle mewn i dri darn, dw i’n gobeithio y gellir eu gwerthu a gall y safle unwaith eto fod yn ganolbwynt i’r gymuned leol a chefnogi busnesau lleol.”

Os na fydd y tri darn unigol yn llwyddo i gael eu gwerthu ar ôl cyfnod rhesymol, mae’r Cyngor yn dweud y byddan nhw’n ystyried dymchwel neu symud rhai o’r adeiladau ar y safle er mwyn lleihau’r costau.