Mae’r cwmni cynhyrchu teledu Cymreig, Green Bay Media, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n uno â’r cwmni rhyngwladol, Wildfire Productions.

Fe gafodd Green Bay Media, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, ei sefydlu yn 2001 gan y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr teledu, John Geraint, a chadeirydd presennol Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George.

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn creu rhaglenni dogfen, a dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu The Story of Wales a DNA Cymru a Creu Cymru Fodern.

Gyda’r uno hwn, fe fydd holl staff y cwmni yng Nghaerdydd yn ymuno â Wildflame Productions, gyda’r cyfarwyddwr creadigol, John Geraint, yn cael sedd ar Fwrdd Golygyddol y cwmni, a hynny yn Ymgynghorydd Creadigol a Phrif Gynhyrchydd.

“Rhannu’r un gweledigaeth a gwerthoedd”

“Rydym ni’n falch o allu ymuno gyda chwmni sy’n rhannu’r un gweledigaeth a gwerthoedd â ni,” meddai John Geraint.

“Gyda’n gilydd, fe allwn ni ddod â rhagor o straeon Cymreig i sgriniau’r byd. Felly, mae pob un ohonon ni yma yn Green Bay yn edrych ymlaen i chwarae rhan lawn yn y pwerdy creadigol newydd hwn o gynhyrchiadau annibynnol o safon uchel.”