Mae cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, sydd wedi’i wahardd o’r blaid a’m flwyddyn a hanner, yn teithio i’r gorllewin yr wythnos hon, i annerch cyfarfod cyhoeddus lle mae cangen Plaid Cymru gyfan wedi’i gwahardd.

Neil McEvoy fydd y siaradwr gwadd yn Llanelli nos Fercher (Mawrth 28) – ac mae un o drefnwyr y noson yn beio Plaid Cymru yn ganolog am greu “cynghrair o ddadrithiaid”.

Daw ymweliad yr Aelod Cynulliad yn dilyn ei waharddiad o Blaid Cymru’r wythnos ddiwethaf, a chyfarfod ymylol yn ystod y gynhadledd wanwyn lle sefydlodd grŵp newydd i “newid cyfeiriad Plaid Cymru”.

Mae ei ymweliad â Llanelli yn sicr o godi ambell i wrychyn, gan fod cangen cyfan y dref hefyd wedi’i gwahardd gan y Blaid, ac wedi lleisio anfodlonrwydd cryf at eu triniaeth.

“Mae’r pethau yma’n digwydd ochr yn ochr,” meddai Mary Roll, cyn-aelod o Blaid Cymru ac o gangen Tref Llanelli, wrth golwg360. “Dyna beth sydd mor rhyfeddol. Dydi ein sefyllfa ni ddim yn gysylltiedig â sefyllfa Neil McEvoy o gwbl.

“Ond, mae’r ddwy sefyllfa i weld yn dilyn yr un patrwm, ac mae’r ffordd mae’r arweinyddiaeth wedi trin Neil McEvoy yn ymddangos yn debyg i’r ffordd maen nhw wedi ein trin ni. Y ffactor gyffredin yn y ddwy achos yw’r arweinyddiaeth.

“Mae’n sefyllfa rhyfedd iawn. Yr arweinyddiaeth sydd wedi creu’r gynghrair yma. Os mae dau grŵp o bobol yn cael eu tramgwyddo, maen nhw’n tueddu ochri â’i gilydd.”

Y digwyddiad

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yng ngwesty The Diplomat yn Llanelli nos fory (Mawrth 28), gyda Mary Roll yn cadeirio a Neil McEvoy yn brif westai.

Mewn datganiad mae Neil McEvoy yn galw’r digwyddiad yn gyfle i’w grŵp newydd “fwrw gwreiddiau yn Llanelli” ac i “gymryd ei gamau cyntaf”.

Bydd Gwyn Hopkins, cyn-Ysgrifennydd etholaeth Llanelli sydd bellach wedi ymddiswyddo o Blaid Cymru, a Sean Rees, cyn-Swyddog Wasg yr etholaeth, hefyd yn siarad yn y digwyddiad.

“Cymysgedd yw hi o bobol sydd wedi’i gwahardd, pobol sydd wedi ymddiswyddo a phobol sydd ar fin gwneud hynny,” meddai Mary Roll wedyn.