Mae RSPA Cymru yn annog cerddwyr i gadw eu cŵn ar dennyn pan ydyn nhw’n o gwmpas anifeiliaid fferm, a hynny yn dilyn digwyddiad yng ngogledd Cymru lle cafodd dafad eu gorfodi i lawr clogwyn gan gi.

Yn ôl yr elusen, fe welodd cerddwyr eraill gi yn rhedeg ar ôl dafad ger chwarel yn Nhal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, gan achosi i’r ddafad syrthio 80 troedfedd i lawr clogwyn serth.

Bu’r ddafad yn sownd am bron i wythnos cyn bod swyddogion y RSPCA yn dod o hyd iddi, ac fe gafodd eu hachub wrth iddyn nhw ddefnyddio offer raffau.

Cadw cŵn ar dennyn

Yn ôl un o’r rhai a achubodd y ddafad, mater o “lwc” oedd hi fod y ddafad yn ddianaf ar ôl syrthio i lawr y clogwyn, ond mae’n annog cerddwyr i gadw eu cŵn ar dennyn “ar hyd yr amser”.

“Wrth i’r tywydd boethi a mwy o bobol yn mynd â’u cŵn am dro yng nghefn gwlad, meddai Mark Roberts, “rydyn ni’n annog pobol i gymryd gofal o gwmpas anifeiliaid fferm, ac i sicrhau bod eu cŵn yn cael eu cadw ar dennyn trwy’r amser pan ydynt mewn neu ger caeau sy’n cynnwys anifeiliaid byw.”