Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad yng Nghaerdydd neithiwr lle cafodd tri dyn eu trywanu.

Fe gafodd heddlu arfog eu galw i’r digwyddiad yn Inverness Place yn ardal y Y Rhath am tua 7:30yh nos Sul (Mawrth 25).

Cafodd tri dyn eu cludo i’r ysbyty yn syth, ac mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dyn 35 oed yn cael ei gadw yn  y ddalfa ar amheuaeth o ymosod.

Mae llanc 17 oed ymhlith y tri  a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad. Mae e a dyn 23 oed yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr “sefydlog”, ac mae dyn arall, 26 oed, hefyd yn derbyn triniaeth am fân anafiadau.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n parhau i gynnal ymchwiliad i’r mater.