Mae’r Ysgrifennydd Cyllid ym Mae Caerdydd, Mark Drakeford, ar ymweliad â Gwlad y Basg yr wythnos hon, a hynny er mwyn dysgu mwy am bolisïau ariannol ac economaidd y rhanbarth.

Yn ystod yr ymweliad deuddydd, fe fydd Mark Drakeford yn gweld syniadau polisi trethi a chynlluniau economaidd a seilwaith y rhanbarth, wrth gyfarfod â gweinidogion y llywodraeth yn Bilbao.

Bydd yn cyfarfod â Pedro Azpiazu, Gweinidog y Trysorlys a’r Economi; Arantxa Tapia, y Gweinidog Datblygu Economaidd a Chystadleurwydd, ynghyd â Beatriz Artolazabal, y Gweinidog Cyflogaeth a Pholisïau Cymdeithasol.

Fe fydd hefyd yn ymweld â Phorthladd Bilbao ac yn gweld y rheilffordd trenau cyflym sy’n gwasanaethu’r ardal – gan gasglu syniadau ar gyfer Metro De Cymru.

Cymru a Gwlad y Basg

Dyma’r enghraifft ddiweddaraf o Gymru a Gwlad y Basg yn cydweithio â’i gilydd ar lefel llywodraeth.

Dim ond yn ddiweddar y cyhoeddodd Llywodraeth Gwlad y Basg ei strategaeth ryngwladol, sef Estategia Basque Country 2018-20, sy’n cynnwys Cymru fel un o’r pum rhanbarth Ewropeaidd uchaf eu blaenoriaeth i Wlad y Basg.

“Cryfhau ein cysylltiadau”

“Wrth i ni gyflwyno ein trethi newydd ym mis Ebrill a gweithio i ddatblygu trethi eraill mae’r ymweliad hwn yn gyfle defnyddiol i rannu arfer da a dysgu o syniadau blaengar Gwlad y Basg am bolisi a gweinyddiaeth trethi, polisïau cymdeithasol a rhaglenni buddsoddi, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith,” meddai Mark Drakeford.

“Mae hefyd yn gyfle i drafod perthynas strategol y rhanbarth gyda Llywodraeth Sbaen mewn perthynas â materion cyllidebol.

“Rydyn ni’n awyddus iawn i gryfhau ein cysylltiadau â Gwlad y Basg, ac rwy’n edrych ymlaen at gael gweld sut i ddwysau’r cydweithrediad rhwng ein rhanbarthau.”