Mae’r actores Rose McGowan, a’r awdur Michael Wolff, ymhlith y cyfranwyr adnabyddus a fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli eleni.

Rose McGowan oedd un o’r actorion cyntaf i wneud honiadau yn erbyn y cynhyrchydd ffilm, Harvey Weinstein, sydd bellach yn wynebu llu o gyhuddiadau o aflonyddu rhywiol.

Tra bod Michael Wolff yn adnabyddus am ysgrifennu’r llyfr Fire and Fury, a oedd yn feirniadol o Arlywydd yr Unol Daleithiau – mae Donald Trump ei hun wedi beirniadu’r awdur.

Mae hi’n 31 mlynedd ers dechrau’r ŵyl, ac mi fydd yn cael ei chynnal rhwng Mai 24 a Mehefin 3, yn Y Gelli Gandryll,  Powys.

Ymhlith y cyfranwyr eraill mae Chelsea Clinton, merch y cyn-Arlywydd Bill Clinton; y Prifardd, Mererid Hopwood; a’r Ysgrifennydd Amgylchedd yn San Steffan, Michael Gove.

“Empathi”

“Mae angen i ni glywed y lleisiau doethaf, nid y rhai mwyaf uchel,” meddai Cyfarwyddwr yr ŵyl, Peter Florence.

“Ac rydym angen y rhodd caiff ei gynnig gan nofelwyr a beirdd – sef y gallu i ddychmygu’r byd o safbwynt rhywun arall. Dydy’r angen am empathi erioed wedi bod yn gryfach.

“Dyma gyfle am safbwyntiau dwys a gwaith difrifol, ond yn ogystal, dyma gyfle i chwerthin, i ddawnsio ac i wledda. Beth am wneud hyn â’n gilydd.”