Mae cyffur i drin plant sy’n dioddef o epilepsi wedi cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio yng Nghymru.

Bellach, bydd modd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru ddarparu cyffur lacosamide (Vimpat®) i blant rhwng 4 a 15 oed sydd â’r cyflwr.

Anhwylder yw epilepsi sydd yn achosi trawiadau a chonfylsiynau, ac mae’n debyg ei fod yn effeithio tua 0.7% o blant yng Nghymru.

Er bod cyffuriau eisoes ar gael i drin y cyflwr, dydy 10-29% o gleifion ddim yn medru rheoli’r trawiadau yn ddigonol â rhain.

Gobaith Llywodraeth Cymru felly, yw y bydd y cyffur newydd yn mynd i’r afael â hyn gan gynnig “[opsiwn] triniaeth newydd”.

Ymrwymiad

“Mae hwn yn gyflwr sy’n gallu amharu’n fawr ar fywydau pobl ac achosi cryn dipyn o ofid,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Mae’r buddsoddiad sylweddol rydyn ni wedi’i wneud yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod cleifion yn cael y triniaethau diweddaraf i gael eu hargymell yn gyflym, lle bynnag y bônt yn byw yng Nghymru.”