Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i dri dyn gael eu trywanu yng Nghaerdydd nos Sul.

Cafodd heddlu arfog eu galw i’r digwyddiad yn Inverness Place, yn y Rhath tua 9yh nos Sul, 25 Mawrth.

Cafodd y tri dyn  eu cludo i’r ysbyty.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.