Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio pecyn newydd i hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.

“Defnyddio’r brwdfrydedd sydd allan yno” yw diben y pecyn, meddai’r Gymdeithas.

Mae’r pecyn yn cynnwys syniadau ymarferol i’w rhoi ar waith yn y gymuned, ac yn cynnig awgrymiadau a chanllawiau.

Dechrau trafodaeth gydag unigolion, busnesau, grwpiau neu gymdeithasau yw prif nod y pecyn, yn ôl y Gymdeithas, yn ogystal â denu mwy o bobol i ddysgu’r Gymraeg. Cafodd y pecyn ei roi at ei gilydd gyda chymorth Huw Llewelyn Davies, Rhys Mwyn a Sharon Morgan.

Dywedodd un o awduron y pecyn, Nia Llywelyn o Fachynlleth: “Mae llawer iawn o waith da yn digwydd yn barod yn ein cymunedau. Yr hyn rydyn ni wedi ceisio ei wneud yw dod â rhai o’r adnoddau ynghyd er mwyn galluogi mwy o bethau ymarferol yn eu cymunedau dros yr iaith.

“Yr hyn rydyn ni wedi ceisio ei wneud yw poteli’r syniadau a’r brwdfrydedd sydd allan yno, a chynnwys awgrymiadau i bobol eu defnyddio.

“Mae angen annog pobol i edrych yn fwy ar eu cymunedau fel bod yna weithgareddau parhaol sy’n hyrwyddo statws a defnydd yr iaith.

“Wrth gyflwyno’r pecyn yma y gobaith yw darganfod ‘sbardunwyr’ cymunedol fydd yn gallu mynd i’r afael â’r gwaith hollbwysig yma i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, i’w gweld a’i chlywed yn eich cymuned.”