Mae Heddlu’r Gogledd yn “gofidio” am ddyn sydd ar goll o Gaernarfon.

Mae David Lloyd Williams yn 44 oed.

Mae lle i gredu ei fod yn gwisgo crys-T gwyn a throwsus glas.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.