Cawl Cymreig yw’r pryd bwyd Prydeinig sy’n achosi’r llygredd mwyaf, yn ôl adroddiad gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF).

Mae powlen o gawl, meddai’r adroddiad, yn achosi cymaint o lygredd ag y mae berwi tegell 258 o weithiau – a hynny yn sgil methan o ddefaid. Fe gafodd ei gymharu â chicken tikka masala, ploughman, a physgod a sglodion.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio y gallai newid hinsawdd beryglu dyfodol cawl a’r prydau eraill, ac opsiynau rhatach yn cael eu cynnig yn eu lle.

Ond mae NFU Cymru wedi wfftio’r adroddiad am nad yw’n ystyried manteision da byw i fioamrywiaeth.

Yn ôl llefarydd ar ran yr WWF, fe allai newid hinsawdd “effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau yn y dyfodol os nad ydyn ni’n gweithredu nawr”.