Bydd Neil McEvoy yn lansio ei grŵp newydd heddiw, a fydd yn ceisio “newid cyfeiriad” Plaid Cymru.

Mae disgwyl i’r Aelod Cynulliad, sydd wedi cael ei wahardd o Blaid Cymru am o leiaf 18 mis, ddweud bod angen ymgyrchu am Gymru sofran a fydd yn gadael i bobol gael “rhyddid barn”.

Mae’r gwleidydd o Gaerdydd yn Llangollen, lle mae’r blaid yn cynnal ei chynhadledd, er nad yw’n cael mynd i mewn gan nad yw’n aelod.

Yn ei gyfarfod mewn tafarn gyfagos, bydd yn dweud bod democratiaeth yng Nghymru wedi cael “blwyddyn ofnadwy” a bod angen brwydro i bobol gael dweud eu dweud.

“Erbyn hyn, mae cael eu digio bron a bod yn hobi i rai pobol… dydyn nhw ddim yn cael eu diystyru yng Nghymru,” meddai.

“Maen nhw’n mynd mor bell â mynd ar y newyddion. Mae gormod ohonyn nhw wedi mynd i’r Cynulliad.

“Cywilydd ffug ym mhob man ar Twitter o wleidyddion sy’n gwneud jôc am yr un pethau yn breifat.”

‘Newid cyfeiriad’

Bydd Neil McEvoy hefyd yn galw am undod a’r “angen i wneud yr achos dros sofraniaeth” ond dywed hefyd y bydd ei grŵp yn “newid cyfeiriad” Plaid Cymru.

“… Rydym yn mynd i drefnu ein hunain ac rydym ni’n mynd i newid cyfeiriad y blaid hon, newid cyfeiriad ei gwleidyddiaeth a newid meddyliau pobol am bleidleisio drosom ni.

“Rydym yn mynd i yrru Cymru ymlaen.”

Bydd y grŵp newydd, sydd heb enw eto, yn un preifat gyda chyfarwyddwyr a phwyllgor ymgynghorol.

Bydd ffi i ymuno – £200 i sylfaenwyr a £1 y mis i aelodau eraill.