Mae dau ddyn o dde Cymru wedi eu carcharu am bum mlynedd a hanner, am geisio smyglo dyn i Brydain trwy dwnnel y sianel.

Cafodd Jason Palmer a Richard Giles eu dal yn dilyn chwiliad o’u car ar Fai 20 y llynedd.

Roedd y pâr ond wedi llwyddo i gyrraedd mynediad y twnnel yn Ffrainc, pan wnaeth swyddogion ddod o hyd i ddyn o Fietnam yn cuddio yng nghefn eu car.

Jason Palmer oedd yn gyrru’r car ac mi fynnodd ei fod wedi ymweld â Ffrainc i brynu alcohol. Methodd â chynnig esboniad am bresenoldeb dyn o Fietnam yn y car.

Yn ystod eu hymchwiliad daeth yr heddlu o hyd i negeseuon testun amheus ar ffôn symudol Richard Giles. Cafwyd y ddau yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caergrawnt ar Chwefror 8 eleni.

“Anfon neges glir”

“Roedd y negeseuon ar y ffôn symudol, ynghyd â’r ffaith bod y dyn a Fietnam methu mynd mewn i’r cerbyd heb help, yn awgrymu’n gryf bod Palmer a Giles [ar fai],” meddai’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol â’r awdurdodau mewnfudo,  David Fairclough.

“Gobeithio bod eu dedfryd i garchar yn anfon neges glir i unrhyw un sydd yn ystyried torri’r gyfraith yn y modd yma – byddwch yn cael eich dal ac yn cael eich gosod gerbron y llysoedd. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr o Lu’r Ffiniau.”