Fe fydd Cymru yn wynebu un o dimau gorau De America yn ffeinal Cwpan Tsiein ddydd Llun.

Bydd Wrwgwai yn un o’r timau peryg y bydd pawb am eu hosgoi yng Nghwpan y Byd yr haf hwn.

Mae ganddyn nhw ddau o ymosodwyr gorau’r byd – Luis Suarez gynt o Lerpwl sydd bellach yn chwarae i Barcelona; ac Edinson Cavani sy’n sgoriwr cyson i glwb Paris Saint-Germain.

Fe sgoriodd y ddau i Wrwgwai wrth iddyn nhw drechu’r Weriniaeth Tsiec 2-0 heddiw, gan olygu eu bod nhw yn camu ymlaen i herio Cymru yn ffeinal Cwpan Tsieina ddydd Llun.

Fe chwalodd y Cymry y tîm cartref ddoe, gyda Gareth Bale yn sgorio hat-tric cofiadwy a thorri record Ian Rush ar gyfer y nifer fwyaf o goliau ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae Wrwgwai yn safle 22 ar restr detholion FIFA, tra bod Cymru yn safle rhif 20.

Mae cic gybtaf gêm Cymru v Wrwgwai am 11.35yb.