Byddai modd osgoi 140 achos o ganser bob wythnos yng Nghymru pe byddai’r cyhoedd yn mynd ati i fyw’n iachach, yn ôl adroddiad newydd.
Mae astudiaeth gan Cancer Research UK yn nodi y gellid rhwystro 7,200 achos o ganser ledled Cymru, a 135,000 achos ledled gwledydd Prydain.
Mewn cydweithrediad gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, fe wnaeth yr elusen ddarganfod mai ysmygu yw’r prif ffactor o hyd mewn achosion o ganser y gellid ei osgoi.
Gordewdra oedd yr ail brif ffactor, ac mae’r ymchwil yn awgrymu bod modd osgoi un o bob 20 achos o ganser yng Nghymru, pe tasai pobol yn byw yn iachach.
Ffigurau
- Mae mwg tybaco yn achosi:
- 19% o achosion canser dynion
- 13% o achosion menywod
- Mae gordewdra yn achosi 5% o achosion canser y flwyddyn
- 6% o achosion canser menywod
- 5% o achosion canser dynion
Mae’r ffigurau wedi’u selio ar ddata o 2015.
“Ffactorau risg”
“Mae sawl math o ganser yn gysylltiedig â ffactorau risg gellir eu hosgoi, gan gynnwys ysmygu a gordewdra,” meddai Dirprwy Gyfarwyddwr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Jyoti Atri.
“Mae’r rhain hefyd yn ffactorau risg gyda sawl haint arall, gan gynnwys clefyd y galon a strôc.”