Mae etifedd gorsedd Gwlad Belg ar fin dechrau astudio yng Ngholeg yr Iwerydd ym Mro Morgannwg.

Bydd y Dywysoges Elisabeth, 16 oed, yn dechrau astudio ar gyfer y Fagloriaeth Ryngwladol yr haf hwn.

Elisabeth, sydd hefyd yn cael ei galw’n Dduges Brabant, yw plentyn hynaf y Frenhines Mathilde a Brenin Philippe o Wlad Belg.

Mae’r dros 350 o fyfyrwyr o dros 90 o wledydd yng Ngholeg yr Iwerydd.

Ymhlith cyn-fyfyrwyr nodedig y coleg mae gwleidyddion, diplomyddion, gwyddonwyr ac artistiaid, gan gynnwys gweinidog Llywodraeth Cymru Eluned Morgan.

Fe’i sefydlwyd ym 1962 gan addysgwr o’r Almaen o’r enw Kurt Hahn, ac fe’i cynlluniwyd i hyrwyddo dealltwriaeth ryngwladol trwy addysg.