Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn tŷ yn Aberaeron, Ceredigion.
Ar Fawrth 12 fe dderbyniodd Heddlu Dyfed Powys adroddiadau am gyflwr mam a merch o’r ardal.
Yn sgil archwiliad o’r tŷ ar Fawrth 19, fe gafodd gweddillion corff eu darganfod ac fe gafodd dynes arall ei chludo i’r ysbyty.
Yn ôl y llu roedd y broses o archwilio yn “anodd oherwydd yr amodau tu fewn” ac mae’r heddlu yn credu bod y corff wedi bod yno “am dipyn o amser”.
Nid yw’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol hyd yma. Mae’r Crwner wedi cael ei hysbysu.
Mae’r heddlu bellach yn trin un o’r menywod dan sylw, Gertrude Gaynor Jones – neu Gaynor yn lleol – fel dynes sydd ar goll, ac yn apelio am wybodaeth.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trwy alw 101 neu ymweld â gorsaf heddlu Aberaeron.