Mae’r Aelod Cynulliad sydd wedi’i wahardd o Blaid Cymru am flwyddyn a hanner, yn credu mai ei “agwedd ddi-lol” wrth ymdrin â phobol a phethau sy’n achosi problem i rai ym Mae Caerdydd.

Fe ddyfarnodd panel disgyblu Plaid Cymru ddydd Llun yr wythnos hon (Mawrth 19) fod Neil McEvoy wedi “torri cyfres o rheolau sefydlog” a’i fod yn euog o ymddwyn mewn modd sy’n achosi neu a allai achosi “loes neu ddadrithiad”.

Ond mae Neil McEvoy o’r farn ei fod yn ymddwyn fel y dylai ffigwr o unrhyw wrthblaid mewn cynulliad cenedlaethol gan ddadlau bod ei steil yn “boblogaidd iawn” gydag etholwyr.

“Mae’n ymddangos bod rhai Aelodau Cynulliad gyda problem â’r ffaith fy mod yn ymdrin â phethau’n ddi-lol,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360.

“Y feirniadaeth gan y BBC amdanaf oedd fy mod bob amser yn ymosodol. Beth sydd yn rhaid sylweddoli yw ein bod ni – neu y dylen ni fod – yn wrthblaid. Mae fy steil i yn boblogaidd iawn gyda phleidleiswyr.

“Dw i ddim yn dweud mai dyma yw’r unig steil allai fod yn boblogaidd â phleidleiswyr,” meddai wedyn.

“Ond dw i’n credu bod yna ddiffyg parch llwyr tuag ataf i, ac i’r canlyniadau etholiadol yr ydw i a fy nhîm wedi’u sicrhau – tîm yr wyf i wedi’i greu.”

Mae Neil McEvoy yn Aelod Cynulliad tros ranbarth Canol De Cymru, ac mae hefyd wedi’i ethol yn gynghorydd yn enw’r blaid yng Ngaerdydd.

Er hynny, mae ef o’r farn fod y blaid yn ganolog yn “ddrwgdybus” ac yn “feirniadol” ohono.

“Mae Plaid Cymru yn mynd yn ôl i’r hen ddyddiau pan roedd Caerdydd yn cael ei hesgeuluso,” meddai Neil McEvoy wedyn.

“Mae yna agwedd plwyfol mai dim ond y cadarnleoedd sy’n bwysig.”

Plaid, neu fudiad pwyso?

 chynhadledd Plaid Cymru yn cael ei chynnal yn Llangollen y penwythnos hwn (Mawrth 23 a 24), mae Neil McEvoy yn dal i fwriadu cynnal ei ddigwyddiad ymylol ‘Plaid Cymru: Political party or pressure group?’ mewn tafarn yn y dref.

Ni fydd yn cael mynediad i’r gynhadledd ei hun yn Llangollen gan nad yw’n aelod llawn, ond fe fydd yn dosbarthu taflenni o flaen y brif fynedfa, meddai.

Yr un agwedd ddi-lol y mae’n dymuno ei gweld gan grwp Plaid Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

“Fe ddechreuodd y grŵp Cynulliad fel gwrthblaid trwy herio Carwyn Jones – roedd hynna’n wych,” meddai Neil McEvoy. “A wedyn mi wnaethon nhw droi at wleidyddiaeth carfan bwyso.

“A chlywais i mai’r peth pwysicaf oedd dylanwadu ar y Llywodraeth Lafur, ac mai dyna oedd y strategaeth.

“Ond fy safbwynt i ydi, os ydych chi eisiau dod i rym a newid Cymru go iawn, ddylen ni ddim fod yn anelu i ddylanwadu ar y Llywodraeth Lafur fel rhyw fath o gydwybod.

“Fe ddylen ni fod yn dadlennu ei gwendidau hi, ei disodli hi, a chymryd ei lle hi.”

Mae Neil McEvoy wedi cyhoeddi y bydd yn apelio’n erbyn ei waharddiad 18 mis.