Mae un o brif gyflwynwyr BBC Radio Cymru, a fydd yn ymadael â’r orsaf yr wythnos nesaf, yn dweud ei fod yn gobeithio dod â “bach mwy” o Gymraeg i radio lleol.

Ar ôl pedair blynedd o weithio ar y shifft prynhawn ar BBC Radio Cymru, fe fydd Andrew ‘Tommo’ Thomas yn ymadael â’r orsaf ddiwedd y mis (rhaglen olaf ddydd Iau, Mawrth 29) er mwyn gweithio i’r cwmni radio lleol, Nation Broadcasting.

Gyda’r cwmni hwnnw, fe fydd yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen newydd rhwng 11yb a 3yh, a fydd yn cael ei darlledu ar orsafoedd Radio Ceredigion, Radio Sir Gâr, Radio Sir Benfro a Bridge FM (ardal Pen-y-bont ar Ogwr).

Ac yn ôl y darlledwr o Aberteifi, mae’n gobeithio “cadw’r iaith yn fyw” ar y gorsafoedd hyn.

“Dw i’n mynd i ddod mewn â tamed bach o Gymrâg,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n gwybod ar hyn o bryd so fe ’na nawr, ond o’dd e ’na pan o fi ’na tro diwetha’.

“Ond dw i’n gobeithio dod yn ôl â bach mwy o Gymrâg i gadw’r iaith yn fyw, a dod â’r iaith Gymrâg i lefydd fel Bridgend a lawr yn Sir Benfro ’fyd.

“Fe fydden nhw’n gwerthfawrogi bod rhywun yn siarad Cymrâg yn y siroedd ’na.”

Radio Cymru wedi rhoi “hyder”

Mae’r cyflwynydd hefyd yn dweud ei fod wedi cael yr “hyder” i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i weithio gyda Radio Cymru, er ei fod yn gwybod nad yw ei Gymraeg yn “berffeth”.

“Dw i’n teimlo bod fi wedi cael gwers Cymrâg am bedair blynedd gyda Radio Cymru,” meddai eto.

“Diolch i Terwyn [Davies, ei gynhyrchydd] hefyd, mae’n helpu fi gyda fy Nghymrâg i. Sa i’n treiglo’n berffeth, ac ambell waith o’n i’n gor-dreiglo, ac efalle’n trial yn rhy galed wedyn.

“Ond dw i’n teimlo bod fy Nghymrâg i wedi gwella tu hwnt.”