Mae prif gyflwynydd rhaglenni prynhawn Radio Cymru, Andrew ‘Tommo’ Thomas, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at ei “sialens newydd sbon” o ddarlledu ar radio lleol.

O fis Ebrill ymlaen, fe fydd y darlledwr yn dychwelyd at radio lleol, a hynny gyda’r cwmni Nation Broadcasting, sy’n darlledu o’i gorsaf yn Arberth.

Ac mewn cyfweliad arbennig â golwg360, mae’n dweud ei fod yn “drist” o orfod ymadael â Radio Cymru, ond ei fod yn teimlo bod angen iddo “symud ymlaen”.

“Gades i beder blynedd yn ôl o Town And Country Broadcasting i ddod i Radio Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Ac, wrth gwrs, fy mreuddwyd i wedd ca’l cyfle i weithio i BBC Radio Cymru neu Radio Wales a gwitho i fy ngwlad… a ges i’r cyfle yna.

“A heb air o gelwydd, dw i wedi mwynhau e mas draw… Ond o’n i’n teimlo, mae’r amser wedi dod i feddwl mla’n nawr, i symud mla’n at sialens newydd sbon, wrth gwrs.”

Mae’n ychwanegu ei fod wedi dod i’r penderfyniad hwn “fisoedd yn ôl”, gyda marwolaeth ei dad, ei iechyd personol, a’r ffaith ei fod yn dymuno treulio mwy o amser gyda’i deulu, yn ffactorau a arweiniodd at y penderfyniad hwnnw.

Er hyn, mae’n well ganddo beidio â sôn am yr helynt y bu ynddo fis Mehefin y llynedd, pan gafodd ei wahardd o’i waith am gyfnod yn sgil sylwadau a wnaeth yng Ngŵyl Nôl a Mlân yn Llangrannog.

“Fformat hollol newydd”

Wrth edrych ymlaen at ei raglen newydd ar radio lleol, a fydd yn cael ei darlledu rhwng 11yb a 3yh, mae’n dweud y bydd ganddo “fformat hollol newydd”, gyda’r rhaglen yn cael ei darlledu ar Radio Ceredigion, Radio Sir Gâr, Radio Sir Benfro a Bridge FM (ardal Pen-y-bont ar Ogwr).

Ond ni fydd hen ffefrynnau o Radio Cymru fel Brian yr Organ yn ymuno ag ef ar y rhaglen honno.

“Dw i wedi symud mla’n,” meddai eto. “Mi roedd Brian yr Organ gyda fi, wrth gwrs, am y pedair blynedd, ond gyda Radio Cymru o’dd hwnna.

“Ond symud at radio lleol, mae’n radio hollol wahanol i Radio Cymru…”