Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod awyren Hawk a ddefnyddir gan dîm arddangos Red Arrows wedi plymio i’r ddaear yn Y Fali ym Môn.

Cafodd criw ambiwlans brys ei anfon i’r fan a’r lle tua 1.30yp heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 19). Mae’r Awyrlu wedi cadarnhau bod dau berson ar yr awyren adeg y ddamwain.

Mae RAF Fali yn ganolfan sy’n cael ei defnyddio i hyfforddi peilotiaid ymladd a chriw awyr, ac mae yno tua 1,500 o staff, gweision sifil a chontractwyr yn gweithio.

“Rydym yn ymchwilio i’r digwyddiad ac ni fyddai’n briodol rhoi sylw pellach ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran yr Awyrlu Brenhinol.

Credir bod yr awyren yn hedfan o’r Fali yn ôl i RAF Scampton, Swydd Lincoln – lle mae’r pencadlys – pan ddigwyddodd y ddamwain.